Event box

Ystafelloedd Darllen: Dadansoddi’r Gofodau Mewnol yng Ngwaith George Gissing

Ystafelloedd Darllen: Dadansoddi’r Gofodau Mewnol yng Ngwaith George Gissing In-Person / Online

Hybrid: Campws Trefforest ac ar-lein

Fe'ch gwahoddir yn gynnes i sgwrs gan Dr Rebecca Hutcheon.
Daw’r sgwrs o’i monograff Writing Place (2018). Gan ddechrau gyda’r Ystafell Ddarllen yn yr Amgueddfa Brydeinig a gan orffen gyda man ysgrifennu Henry Ryecroft yn ei fwthyn yn Ne-orllewin Lloegr, mae'r sgwrs hon yn archwilio detholiad o ofodau mewnol, neu'r bydoedd o fewn y bydoedd, yn nofelau Gissing.

 

Mae Rebecca Hutcheon yn ymchwilydd y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar y dyniaethau digidol, daearyddiaeth ddiwylliannol a rhyddiaith y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Writing Place, y llyfr y mae'r sgwrs hon wedi'i seilio arno, yw'r monograff cyntaf i ystyried gweithiau George Gissing yng ngoleuni'r 'troad gofodol' ac mae'n gofyn: beth yw'r risgiau o chwilio am y 'go iawn' yn lleoedd Gissing? Mae gwaith cyfredol Rebecca, llyfr ar y cyd o'r enw New Approaches for Digital Literary Mapping: Chronotopic Cartography a fydd yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach eleni, yn gofyn beth mae'n ei olygu i greu mapiau digidol o, ac ar gyfer llenyddiaeth. Mae hi hefyd yn gweithio ar erthygl sy'n archwilio moeseg ac economeg llysieuaeth mewn realaeth ddiwedd Oes Fictoria. Ochr yn ochr â'r allbynnau print hyn, mae hi hefyd yn gyd-grëwr ap cerdded diwylliannol, Romantic Bristol: Writing the City, cynllun sydd wedi'i deilwra ar gyfer codio testunau llenyddol. Mae Rebecca hefyd yn gyd-gyfarwyddwr y cwmni addysgol Litcraft: Bringing the Text to Life. Rebecca yw Cymrawd Ymchwil ar gyfer Effaith yng Nghyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol PDC. 

 

Date:
Wednesday, May 1, 2024
Time:
13:00 - 14:00
Time Zone:
UK, Ireland, Lisbon Time (change)
Location:
Treforest Library
Campus:
Trefforest
Categories:
  Sgwrs awdur  
Registration has closed.

Event Organizer

Profile photo of José Lopez Blanco
José Lopez Blanco
Profile photo of USW Library
USW Library

More events like this...